Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
24 Mawrth 2020
Amser y
cyfarfod: 10.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6266
------
Dechreuodd yr eitem am 10.00
NNDM7315 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
1. Yn atal Rheol Sefydlog 12.56(i) a (ii) sy’n ei gwneud yn ofynnol i:
a) Brif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn; a
b) bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn,
fel nad yw’n ofynnol i'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.
2. Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7316, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Coronafeirws, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Trosglwyddwyd cwestiynau i'r Prif Weinidog i'w hateb yn ysgrifenedig.
Dechreuodd yr eitem am 10.00
Trosglwyddwyd cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i'w hateb yn ysgrifenedig.
Trosglwyddwyd cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) i'w hateb yn ysgrifenedig.
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
Dechreuodd yr eitem am 10.02
Dechreuodd yr eitem am 11.27
Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig.
Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig.
Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig.
Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig.
Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig.
Dechreuodd yr eitem am 12.31
NNDM7316 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Coronafeirws i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Tynnwyd yr eitem hon yn ól.
Tynnwyd yr eitem hon yn ól.
Dechreuodd yr eitem am 13.46
NNDM7317 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 24 Mawrth 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 13.46
NNDM7318 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad a Gweithdrefnau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i:
(i) ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 34 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a
(ii) yn dirymu Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C a dderbyniwyd ar 18 Mawrth 2020.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu, neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 13.47
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2020